Ariennir Gyrfa Cymru gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth am ddim am yrfaoedd i unrhyw un sy’n gwneud penderfyniadau o ran addysg neu gyflogaeth. Yn ogystal, rydym yn darparu ystod o wasanaethau am ddim i gyflogwyr yng Nghymru.
Mewn partneriaeth â Busnes yn y Gymuned, mae Gyrfa Cymru yn darparu Dosbarth Busnes. Mae’r rhaglen hon yn creu partneriaethau effeithiol sy’n fuddiol y naill i’r llall rhwng busnesau ac ysgolion, gan gefnogi pobl ifanc i lwyddo yn yr ysgol a’r tu hwnt a helpu busnesau i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal, mae’n galluogi busnesau i arddangos eu hymrwymiad i’w cymuned leol a gwella eu henw fel busnes cyfrifol.
Yn ogystal, rydym yn darparu nifer o gyfleoedd eraill i fusnesau gysylltu â sefydliadau addysgol lleol. Pam? Oherwydd gall gweithio gydag ysgolion a cholegau helpu sefydliadau i gryfhau eu sail sgiliau bresennol, a denu, datblygu a chadw cyflogeion brwdfrydig.
|
|
|
|
|
1-10 employees
View all Gyrfa Cymru employees
|
|
|
Information Services
|
|
|
53 Charles Street, Cardiff, Wales CF10 2GD, GB
|
|
|
2013
|
Find accurate personal emails, work emails and phone numbers for employees
Accelerate prospecting with instant access to 350M professionals from 40M companies with the right contact details.